Ciarán Eynon yw prifardd Eisteddfod Urdd Sir Ddinbych 2022
Ciarán Eynon yw enillydd y gadair yn Eisteddfod Urdd Sir Ddinbych 2022.
Yn wreiddiol o Landrillo-yn-rhos, Sir Conwy, mae Ciarán bellach yn byw yn Llundain ar ôl astudio ym mhrifysgolion Warwick a Chaerdydd.
Cyn iddo astudio mathemateg ac MA Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, roedd yn ddisgybl yn Ysgol y Creuddyn.
Gofynion cystadleuaeth y gadair oedd cyfansoddi cerdd gaeth neu rydd heb fod yn fwy na 100 o linellau ar y testun "Diolch".
'Un Ymhlith Mwy'
Mae Ciarán yn wyneb cyfarwydd, gan ddod yn ail yng nghystadleuaeth y Gadair ac yn drydydd yng nghystadleuaeth Prif Lenor Eisteddfod T 2021.
Mae'n derbyn cadair sydd wedi ei chreu gan y saer Rhodri Owen a’i rhoi gan Ysgol Uwchradd Glan Clwyd.
Meddai Eurig Salisbury a Peredur Lynch yn eu beirniadaeth: “Nodwedd amlycaf y gystadleuaeth hon eleni oedd amrywiaeth rhyfeddol y lleisiau barddol y bu’n rhaid i ni eu tafoli, ac roedd hynny’n amlwg o ran mesurau, arddull a bydolwg.
“Mae doniau ‘Un Ymhlith Mwy’ yn dra amlwg o agoriad y gwaith hyd at ei ddiwedd. Ceir gafael sicr ar iaith, y gallu i amrywio cyweiriau ieithyddol ac ymwybyddiaeth gadarn o seiliau rhythmig mesur y wers rydd. Yn y llinellau agoriadol fe’n cyflwynir yn y trydydd person i fardd ac mae’r bardd yn ymgodymu â dau beth, ei rywioldeb ac, yn ei dyb ef, anallu’r iaith Gymraeg – ei ddeunydd crai fel bardd – i roi mynegiant i’r rhywioldeb hwnnw."
Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Gruff Gwyn o Fachen o Gaerffili, a Tegwen Bruce-Deans o Landrindod, Maesyfed, oedd yn drydedd.
Bydd y tri yn cael cyfle i fynd ar Gwrs Olwen yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd er cof am Olwen Dafydd.