Oriel: Murluniau graffiti yn ymddangos ger hen ysgolion sêr pêl-droed Cymru
Oriel: Murluniau graffiti yn ymddangos ger hen ysgolion sêr pêl-droed Cymru
Mae murluniau graffiti wedi ymddangos y tu allan i hen ysgolion rhai o sêr pêl-droed Cymru.
Cafodd y gwaith ei gomisiynu gan S4C ar drothwy rownd derfynol gemau ail gyfle Cwpan y Byd.
Wcráin fydd yn herio Cymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd dydd Sul, gyda'r gic gyntaf am 17:00.
O Grymych i Gaerdydd, o Langollen i Langatwg, mae'r lloriau'n goch i gefnogi Cymru.
Mae hyd yn oed dau o'r portreadau dros y ffin yn Lloegr, yn Nyfnaint a Hull, lle aeth Kieffer Moore a Dan James i'r ysgol.
Dyma olwg ar y murluniau yn ein horiel, neu ein wal goch.
Aaron Ramsey – Ysgol Gyfun Cwm Rhymni
Ben Davies – Ysgol Gyfun Ystalyfera
Connor Roberts – Ysgol Gyfun Cymunedol Llangatwg
Dan James – South Hunsley High School
Danny Ward – Ysgol Uwchradd Penarlâg
Gareth Bale – Ysgol Uwchradd Yr Eglwys Newydd
Harry Wilson – Ysgol Dinas Brân
Joe Allen – Ysgol Y Preseli
Joe Rodon – Pontarddulais Comprehensive School
Kieffer Moore – King Edward VI Community College
Neco Williams – Ysgol Rhiwabon
Rob Page – Ysgol Gymuned Ferndale
Fe fydd y cyfan yn fyw ar S4C am 16:15 ddydd Sul, a'r diweddaraf i gyd ar wasanaeth Newyddion S4C.
