Wrecsam yn methu â chipio teitl Dinas Diwylliant y DU
Dyw Wrecsam ddim wedi llwyddo yn ei hymgais i gipio teitl Dinas Diwylliant y DU 2025.
Fe ddaeth y cyhoeddiad gan yr Ysgrifennydd Diwylliant Nadine Dorries ar raglen y BBC, The One Show nos Fawrth mai Bradford yn Swydd Efrog yw'r ddinas fuddugol.
Daw hyn wedi siomedigaeth i CPD Wrecsam dros y penwythnos wedi iddyn nhw golli yn erbyn Grimsby Town gan olygu na fyddan nhw'n cael dyrchafiad i Gynghrair Dau.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi llongyfarch Bradford ar ei buddugoliaeth gan ychwanegu fod y gystadleuaeth wedi dod â chymuned Wrecsam yn agosach at ei gilydd.
Mae Wrecsam wedi derbyn statws dinas fel rhan o ddathliadau Jiwbilî Platinwm y Frenhines.
Roedd Wrecsam yn cystadlu yn erbyn Bradford, Sir Durham a Southampton ar gyfer y teitl.
Mae'n dilyn buddugoliaethau i Derry yn 2013, Hull yn 2017 a Coventry yn 2021.