Apêl gan yr heddlu yn dilyn gwrthdrawiad angheuol ym Mhowys
30/05/2022
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi lansio apêl am ragor o wybodaeth wedi i ddyn 41 oed marw mewn gwrthdrawiad ddydd Sadwrn.
Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng beic modur Ducati a fan Mercedes ar yr A479 ger pentref Tretŵr ychydig wedi 8:40 yn y bore.
Bu farw gyrwr y beic modur o'i anafiadau yn dilyn y gwrthdrawiad.
Mae'r heddlu wedi gofyn i unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am y gwrthdrawiad i gysylltu yn syth gan ddefnyddio'r cyfeirnod DP-20220528-093.