Steve Cooper yn ennill dyrchafiad gyda Nottingham Forest

The Telegraph 29/05/2022
Nottingham Forest

Mae’r Cymro Steve Cooper wedi ennill dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair gyda’i glwb Nottingham Forest.

Fe gurodd ei dîm Huddersfield 1-0 yn Wembley brynhawn dydd Sul yn rownd derfynol y gemau ail-gyfle.

Roedd y clwb ar waelod y bencampwriaeth pan ymunodd Cooper â nhw ddechrau’r tymor ar ôl iddo adael Abertawe.

Roedd Cooper yn reolwr ar yr Elyrch pan gollon nhw allan am ddyrchafiad yn erbyn Brentford llynedd.

Bydd hyn yn hwb i Brennan Johnson sy’n aelod o garfan Cymru.  Mae'r ymosodwr wedi serennu i Forest eleni gan ddenu sylw nifer o’r clybiau mawr.

Mae Forest yn ymuno â Fulham a Bournemouth yn yr Uwch Gynghrair y tymor nesaf.

Mae Cooper hefyd yn ymuno â dau gyn-reolwr Abertawe sef Brendan Rodgers yng Nghaerlŷr a Graham Potter yn Brighton.

Darllenwch fwy yma.

Llun: Twitter/Nottingham Forest

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.