Rubin Colwill: 'Ma' pawb yn barod i fynd'

Newyddion S4C 28/05/2022

Rubin Colwill: 'Ma' pawb yn barod i fynd'

Gydag ychydig dros wythnos cyn rownd derfynol gemau ail-gyfle Cwpan y Byd, mae chwaraewr canol cae Cymru a Chlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, Rubin Colwill, wedi dweud bod carfan Cymru yn "barod i fynd".

Bydd tîm Rob Page yn wynebu cyfnod prysur ym mis Mehefin gyda phum gêm o fewn pythefnos i'w gilydd, cyn wynebu naill ai'r Alban neu Wcráin ar 5 Mehefin am le yng Nghwpan y Byd. 

Mae Colwill yn rhan o'r 27 o chwaraewyr a gafodd eu henwi yng ngharfan Rob Page ar gyfer y gemau hollbwysig fis nesaf, gyda phedair gêm yng Nghynghrair y Cenhedloedd hefyd i'w chwarae yn erbyn Gwlad Pwyl, Yr Iseldiroedd a Gwlad Belg.

Dywedodd Colwill bod "pawb yn edrych ymlaen i'r gemau i dod a ie ma' pawb yn teimlo'n dda 'wi'n credu ac yn edrych ymlaen i'r gemau."

Er ei fod yn cydnabod y cyfnod prysur sydd yn wynebu Cymru, dywedodd Colwill mai "yr un mwya pwysig yw y gêm Cwpan y Byd 'na so ie ni gyd yn edrych ymlaen i'r gêm hwnna ond hefyd ma'r gêm ar dydd Mercher fi'n credu 'da ni sydd yn gêm mawr hefyd".

"Ma' pawb yn jyst ffocysu ar y gêm cynta' 'na wedyn trio cael ennill fyna a wedyn ymlaen i'r gêm nesa' wedyn."

Pe bai Cymru yn cyrraedd Qatar, byddai tîm Rob Page yn wynebu Lloegr, Iran ac Unol Daleithiau'r America yng Ngrŵp B ym mis Tachwedd. 

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.