Gŵyl Ellen: talu teyrnged i ffigwr blaenllaw yn hanes Cymru

29/05/2022

Gŵyl Ellen: talu teyrnged i ffigwr blaenllaw yn hanes Cymru

Bydd Gŵyl Ellen yn cael ei chynnal ddydd Sul, 29 Mai yng Nghaernarfon er mwyn talu teyrnged i ddynes a wnaeth ddysgu dros 1,000 o ddynion i forio.

Yn enedigol o Amlwch, symudodd Ellen Edwards yn 1830 i Gaernarfon er mwyn sefydlu ysgol fordwyo yn 34 Stryd Newydd. 

Roedd dynion o Gaernarfon, Môn a Llŷn ymhlith disgyblion Ellen oedd yn llwyddiannus wrth basio arholiadau Byrddau Morol Lloegr, Yr Alban ac Iwerddon. 

Er ei gwaith arloesol yn y maes morwrol, ychydig iawn o ymwybyddiaeth sydd am ei champweithiau, a bwriad trefnydd yr ŵyl, Osian Owen, ydi  pwysleisio pwysigrwydd Ellen a'i hysgol fordwyo i'r byd morwrol yng Nghymru. 

"Dwi'm yn meddwl bod 'na lot o ymwybyddiaeth leol o gwbl am Ellen.

"Ma' pobl yn y blynyddoedd dwytha yn dysgu lot mwy amdani, diolch i waith pobl fel Elin Thomas, ond yn gyffredinol, tasa ni'n gneud vox pops o bobl Gaernarfon, dwi'm yn gwbod faint o bobl fysa'n gwybod pwy 'di hi."

'Rhan o hanes yr ardal'

Yn ôl Osian, mae hanes Ellen yn parhau yn weledol yng Nghaernarfon heddiw.

"O'dd hi'n addoli yng Nghapel Caersalem sydd dal ar agor a dal yn cael ei ddefnyddio.

"O'dd hi'n byw yn New Street, fuodd hi farw ar Stryd y Degwm wedyn mae hi'n rhan o hanes yr ardal yma."

Dywedodd Osian fod dau brif reswm pam nad ydy Ellen yn bodoli yn ymwybyddiaeth gyhoeddus pobl.

"Y rheswm cyntaf ydi mae o'n batrwm cyffredinol ella efo merched mewn hanes bod merched yn gyffredinol ddim yn cael yr un sylw pan 'da ni'n trafod hanes diwydiant.

"Yr ail beth ydy bod Cymru ella ddim yn rhoi digon o sylw i'w hanes morwrol ei hun."

'Dwr môr yng ngwaed y teulu'

Ganed Ellen yn ferch i'r Capten William Francis, ac ar ôl cyfnod ar y môr, agorodd ysgol fordwyo yn Amlwch yn 1814.

Roedd merch Ellen, Ellen Francis Edwards, hefyd yn ymddiddori yn y byd morwrol, gan iddi fod yn gynorthwydd yn ysgol fordwyo ei mam yng Nghaernarfon. 

Bu farw Ellen yn 79 oed, ac fe wnaeth un papur newydd gyfeirio ati fel "athrawes forwrol mwyaf llwyddiannus Gogledd Cymru am gyfnod hir o tua 60 mlynedd". 

Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal yn Lle Arall, ystafell ddigwyddiadau cymunedol Llety Arall.

Yn ogystal, bydd hi hefyd yn cael ei ffrydio yn fyw er mwyn sicrhau y gall unrhyw un werthfawrogi a dysgu mwy am gyfraniad Ellen. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.