Newyddion S4C

Teyrngedau i fachgen 13 oed fu farw mewn afon yn Abertawe

Mirror 25/05/2022
damwain Afon

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i fachgen 13 oed fu farw ar ôl mynd i drafferthion wrth nofio yn Afon Tawe yn Abertawe. 

Bu farw Kane Edwards ar ôl bod yn nofio gyda ffrindiau yn yr afon nos Fawrth.

Dywedodd Heddlu De Cymru fod ymdrechion i'w ddarganfod a'i achub wedi digwydd yn dilyn adroddiadau bod bachgen heb ddod allan o ddŵr yr afon ger Treforys. 

Cafodd Kane ei ddarganfod yn yr afon am 18:00, ond nid oedd modd i'r gwasanaethau brys achub ei fywyd. 

Mae'r heddlu wedi lansio ymchwiliad i amgylchiadau'r digwyddiad. 

Darllenwch fwy yma.

Llun: Heddlu De Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.