
Adroddiad Sue Gray: 'Angen i uwch arweinwyr dderbyn cyfrifoldeb'
Mae adroddiad llawn Sue Gray yn edrych ar bartïon yn Rhif 10 Downing Street yn ystod cyfnod y pandemig wedi'i gyhoeddi.
Mae'r adroddiad yn nodi fod "gwersi pwysig angen eu dysgu" a bod angen i "uwch arweinwyr dderbyn cyfrifoldeb" am y digwyddiadau.
Dywed Ms Gray yn ei hadroddiad na ddylai llawer o'r digwyddiadau y bu'n ymchwilio iddynt "fod wedi cael caniatâd i ddigwydd".
“Mae'n rhaid i’r uwch arweinwyr, boed yn rhai gwleidyddol neu rai swyddogol, ysgwyddo’r cyfrifoldeb am y diwylliant hwn.”

Fe gafodd adroddiad yr uwch-was sifil i 16 o ddigwyddiadau honedig ei ohirio wedi i Heddlu'r Met gynnal ymchwiliad i'r partïon anghyfreithlon ym mis Ionawr.
Mae'r Heddlu bellach wedi rhoi dros 120 o ddirwyon yn gysylltiedig â thorri rheolau Covid-19 yn Rhif 10 a Whitehall, gan gynnwys dirwyon i'r Prif Weinidog a'r Canghellor, Rishi Sunak.

60 o dudalennau
Mae adroddiad Ms Gray yn 37 0 dudalennau o hyd ac yn cynnwys naw llun o'r digwyddiadau.
Wrth grynhoi ar ddiwedd ei hadroddiad, dywedodd Ms Gray:
"Mae'r digwyddiadau sydd wedi eu nodi yn yr ymchwiliad hwn wedi digwydd dros gyfnod o 20 mis.
"Cyfnod sydd wedi bod yn gwbl unigryw o ran cymhlethdod a'r pwysau ar weision cyhoeddus ac yn wir y cyhoedd yn gyffredinol.
"Fe ymatebodd y wlad gyfan i'r her, ac roedd hyn yn cynnwys Gweinidogion Llywodraeth, Cynghorwyr Arbennig a'r Gwasanaeth Sifil
'Gwersi sylweddol'
"Fodd bynnag, fel y nodais, ni ddylai nifer o’r digwyddiadau yma fod wedi digwydd yn y ffordd y gwnaethant
"Mae gwersi sylweddol i'w ddysgu o'r digwyddiadau hyn, ac mae'n rhaid mynd i'r afael a nhw ar unwaith ar draws y Llywodraeth."

Wrth ymateb i'r adroddiad, fe ddiolchodd Boris Johnson i Sue Gray am y gwaith mae hi wedi ei wneud yn ystod ei hymchwiliad.
Dywedodd wrth ei gyd-aelodau o'r Senedd ei fod yn ategu ei ymddiheuriad blaenorol am ei ran yn y digwyddiadau dan sylw, gan ddweud ei fod yn "cymryd cyfrifoldeb llawn am bopeth a ddigwyddodd."
Mewn cynhadledd i'r wasg brynhawn dydd Mercher i drafod yr adroddiad, dywedodd Mr Johnson nad oedd yn fwriad ganddo i ymddiswyddo.
"Oll allaf ddweud yw fy mod yn meddwl, o gofio am yr hyn sydd yn digwydd nawr, yw mai fy swydd yw i barhau a chyflawni ein haddewidion maniffesto.
"Rwy'n credu'n gryf mai fy nyletswydd yw i symud ymlaen a chyflawni (yr addewidion).
"Rwyf yn eich clywed, rwyf yn eich deall...rhaid i mi symud ymlaen ac mae'n rhaid i'r llywodraeth symud ymlaen.
"Fe fyddwn yn parhau i symud ymlaen a gwneud y pethau anodd."
Mae dirprwy arweinydd Llafur, Angela Rayner, wedi ymateb i ganfyddiadau’r adroddiad, gan ddweud nad oes modd i Mr Johnson amddiffyn ei sefyllfa.
“Mae Downing Street dan arweinyddiaeth Boris Johnson wedi pydru o’r top i'r llawr.
"Fe osododd y diwylliant yma yno. Fe ddigwyddodd hyn dan ei oruchwyliaeth."
Mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts, wedi galw ar Aelodau Seneddol Torïaidd i gael gwared ar y prif weinidog yn dilyn cyhoeddi'r adroddiad.
'Yfed a thrachwant'
Wrth siarad yn ystod sesiwn holi'r Prif Weinidog yn San Steffan ddydd Mercher, dywedodd arweinydd yr SNP, Ian Blackford:
"Tra bod pobl yn aros gartref i amddiffyn y GIG, roedd y prif weinidog yn cymryd rhan mewn digwyddiadau oedd yn cynnwys yfed a thrachwant.
"Mae hyn wedi difrïo’r holl aberthau dirdynnol a wnaeth pawb yn ystod y pandemig.
"A wnaiff y prif weinidog nawr gymryd y cyfle i ymddiswyddo?"
Mae disgwyl i Mr Johnson fynychu cyfarfod arbennig o Bwyllgor 1922 (pwyllgor o aelodau meinciau cefn y Blaid Geidwadol) yn ddiweddarach ddydd Mercher, ac mae disgwyl iddo wneud datganiad i'r wasg yn dilyn hynny.