
Tystiolaeth Panorama ac adroddiad Sue Gray 'ddim yn ddigon' i ddisodli Boris Johnson
Tystiolaeth Panorama ac adroddiad Sue Gray 'ddim yn ddigon' i ddisodli Boris Johnson
Ni fydd y dystiolaeth gan raglen Panorama'r BBC na chwaith adroddiad Sue Gray yn ddigon i ddisodli Boris Johnson, yn ôl un sylwebydd gwleidyddol.
Dywedodd y newyddiadurwr Tweli Griffiths na wnaeth y rhaglen ddogfen ddatgelu unrhyw wybodaeth nad oedd y cyhoedd yn gwybod yn barod.
Roedd rhaglen Panorama nos Fawrth yn cynnwys tystiolaeth gan bobl oedd yn bresennol yn y partïon yn Rhif 10 Downing Street yn ystod y cyfnod clo.
Yn ôl y rhai a gafodd eu holi, fe wnaeth Boris Johnson gymryd rhan yn y partïon a ni wnaeth y Prif Weinidog ymdrech i gadw at y rheolau.
Er hyn, mae Mr Griffiths yn credu y bydd Mr Johnson yn dal ei afael yn y swydd.
"Mi fyddan nhw'n bryderus dwi'n credu achos mi oedd Panorama yn ddamniol," meddai.
"Ond wedi dweud hynny, dwi ddim yn meddwl fod yr hyn oedd yn y rhaglen wedi bod yn wybodaeth newydd i'r rhan fwyaf o bobl.
"Er bod e'n ddamniol dwi ddim yn meddwl mae'n mynd i gael llawer o effaith ar ddyfodol Boris Johnson fel Prif Weinidog."

'Dwylo wedi clymu'
Ychwanegodd Mr Griffiths ei fod yn amau'r effaith y bydd adroddiad y gweithiwr sifil blaenllaw Sue Gray yn cael ar ddyfodol y Prif Weinidog hefyd.
Mae disgwyl i adroddiad llawn Ms Gray i gael ei gyhoeddi ddydd Mercher wedi iddo gael ei ohirio pan ddechreuodd Heddlu'r Met ar eu hymchwiliad i'r partïon anghyfreithlon.
Ond mae Mr Griffiths yn teimlo y bydd y "cyfyngiadau" ar Sue Gray yn tanseilio dylanwad yr adroddiad.
"Mae ei dwylo hi wedi clymu o ran pa enwau mae'n gallu datgelu yn ei adroddiad terfynol," meddai.
"Dyw Boris Johnson ddim yn un o'r bobl mae hi'n gallu pwyntio'r bys ato, achos fe ar ddiwedd y dydd yw ei boss hi.
"Dwi ddim yn disgwyl effaith adroddiad Sue Gray i fod yn ddigon, na chwaith yr hyn cafodd ei datgelu ar Panorama, dwi ddim yn meddwl maen nhw mynd i fod yn ddigon o fygythiad i ddisodli Boris Johnson fel Prif Weinidog."
Er i Mr Griffiths honni na fydd sgandal Partygate yn ddigon i achosi Boris Johnson i golli ei swydd, mae'n dal i gredu bod sefyllfa'r Prif Weinidog yn un bregus.
Yn lle partïon anghyfreithlon, mae Mr Griffiths yn teimlo mai'r argyfwng costau byw fydd yn gwthio Mr Johnson allan o Rif 10.
"Nid Partygate fydd yn dymchwel Boris Johnson ond yn hytrach yr argyfwng costau byw," meddai.
"Y ffaith bod e'n gwrthod gwneud unrhyw beth sydyn i helpu pobl i oroesi'r argyfwng 'ma."
Llun: Rhif 10