Newyddion S4C

Dysgwraig yn cipio cadair eisteddfod ar ôl dysgu cynganeddu 18 mis yn ôl

22/05/2022

Dysgwraig yn cipio cadair eisteddfod ar ôl dysgu cynganeddu 18 mis yn ôl

Mae menyw o Lundain sydd wedi dysgu Cymraeg ers tair blynedd wedi ennill cadair eisteddfod am ei barddoniaeth.

Enillodd Jo Heyde y gadair yn Eisteddfod Gadeiriol Llandudoch am gerdd ar y testun ‘Gorwelion’, a hynny ar ôl dysgu sut i gynganeddu ers dim ond blwyddyn a hanner.

Mae Jo yn cystadlu mewn nifer o eisteddfodau ond dyma’r tro cyntaf iddi fynychu un yn bersonol.

Penderfynodd ddysgu’r Gymraeg ar ôl clywed yr iaith wrth deithio trwy dde Cymru gyda’i gŵr.

Dywedodd wrth Newyddion S4C: “Nes i glywed merch yn siarad Cymraeg a hynny wnaeth ddenu fi at yr iaith.

"Unwaith nes i ddechrau dysgu o’n i’n hooked.

“D’oes dim cysylltiad teuluol gyda Chymru o gwbl a dwi jyst yn gweld y teitlau mewn eisteddfodau a mynd gyda’r awen.

“Rwi wedi bod yn barddoni ers blwyddyn arlein gydag Ysgol Farddol Caerfyrddin.

"O’n i moyn bod yn rhan o’r diwylliant a chael cyd-destun a bod yn rhan o’r gymuned. 

“Y bwriad yw symud i Ddinbych-y-Pysgod yn y tymor hir gyda chyfnod o bontio yn y cyfamser."

Dywedodd y beirniad Aneirin Karadog fod pedair cerdd yn haeddu ennill a bod y safon yn uchel dros ben.

Ar ôl cynnal eisteddfod rithiol y llynedd, roedd neuadd bentref Llandudoch yn orlawn ddydd Sadwrn.

Yn ôl un o drefnwyr yr eisteddfod Terwyn Tomos, mae buddugoliaeth Jo Heyde wedi rhoi hwb i’r iaith.

Dywedodd: “Mae’r ffaith fod Jo wedi ennill yn beth gwych. Ni’n neud hwn er mwyn hybu diwylliant Cymraeg ac mae’n rhoi hwb i ti pan mae pobol yn fodlon ymroi.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.