Partygate: Boris Johnson yn 'parhau i ymddiheuro am bethau aeth o'i le' o dan ei arweinyddiaeth
Partygate: Boris Johnson yn 'parhau i ymddiheuro am bethau aeth o'i le' o dan ei arweinyddiaeth
Mae Boris Johnson wedi dweud ei fod yn "parhau i ymddiheuro am bethau aeth o'i le" o dan ei arweinyddiaeth yn sgil Partygate.
Roedd y Prif Weinidog yn siarad yn ystod cyfweliad â chyflwynydd rhaglen Newyddion S4C, Bethan Rhys Roberts, yng Nghynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig.
Mae cynhadledd y blaid yng Nghymru’n cael ei chynnal yn y Drenewydd ddydd Gwener a dydd Sadwrn.
Daw’r gynhadledd ddiwrnod wedi i Heddlu’r Met gadarnhau fod eu hymchwiliad i bartïon yn Downing Street a Whitehall yn ystod y cyfnod clo wedi dod i ben.
Dywedodd Downing Street ddydd Iau na fyddai Mr Johnson na’i wraig Carrie Johnson yn derbyn dirwyon pellach.
Mae disgwyl i Sue Gray gyhoeddi ei hadroddiad hir-ddisgwyliedig i'r partïon wythnos nesaf.
Dywedodd Mr Johnson wrth Newyddion S4C ei fod yn gobeithio “ffocysu ar y pethau sydd wir yn poeni pobl” ar ôl i adroddiad Sue Gray gael ei gyhoeddi.
“Dwi’n parhau i ymddiheuro am bethau aeth o’i le o dan fy arweinyddiaeth,” meddai.
“Ni wedi gwneud nifer fawr o newidiadau yn barod i’r ffordd mae Rhif 10 yn gweithio.”
“Y peth gorau yw aros i weld beth sydd gan Sue [Gray] i ddweud.”
'Potensial Cymru'
Bu'r Prif Weinidog hefyd yn cael ei holi ar gynlluniau i ddatblygu ffynonellau newydd o ynni yng Nghymru yn sgil yr ansefydlogrwydd i gyflenwadau nwy ac olew o ganlyniad i'r rhyfel yn Wcráin.
Dywedodd Mr Johnson y gall Cymru wneud "pethau anhygoel" wrth gynhyrchu trydan trwy ffermydd gwynt oddi ar yr arfordir a thrwy orsafoedd niwclear newydd.
"Mae yna gyfle anferthol i wella porthladdoedd Cymru fel gallan nhw fod y llefydd lle mae pobl sydd eisiau sefydlu neu adeiladu ffermydd gwynt yn y môr fod yn fodlon buddsoddi," meddai.
"Ni nawr yn darparu £160m tuag at helpu porthladdoedd i sicrhau'r buddsoddiad yma.
"Yr ail beth yw niwclear, mae gan Gymru hanes balch o orsafoedd niwclear sydd wedi dirywio oherwydd diffyg llywodraethau Llafur i gynllunio yn yr hir dymor.
"Rydym yn mynd i adfywio niwclear yng Nghymru, nid yn unig yn Wylfa ond hefyd yn Nhrawsfynydd."
Dyfodol yr undeb
Yn ogystal â'r argyfwng costau byw, fe wnaeth y Prif Weinidog hefyd wynebu cwestiynau ar y pwysau ar undeb y Deyrnas Unedig.
Dywedodd Mr Johnson fod ganddo ffydd y bydd yr undeb yn parhau, gan gondemnio syniadau i'w chwalu.
"Rydym eisiau gwrando, ni'n deall uchelgeisiau pobl, mae'n wych i fod yn falch i fod o Ogledd Iwerddon, neu o'r Alban, neu o Gymru," meddai.
"Ond dwi'n meddwl ni'n well gyda'n gilydd fel teulu.
"Nid oes modd curo'r Deyrnas Unedig fel syniad, fel casgliad o werthoedd, fel gwlad sydd gyda phethau i gynnig y byd, a bydd yn gamgymeriad enfawr i'w thorri hi lan."