Wcráin yn ennill cystadleuaeth Eurovision gyda’r DU yn ail

Mae grŵp o Wcráin wedi ennill cystadleuaeth Eurovision yn ninas Turin yn yr Eidal nos Sadwrn.
Daeth y DU yn ail – y canlyniad gorau ers 20 mlynedd gyda chân Sam Ryder, Space Man, oedd wedi ei chyd-gyfansoddi gan Amy Wadge o Gymru.
Roedd y DU ar y blaen ar ôl pleidleisiau paneli’r gwledydd ond daeth Wcráin i’r brig ar ôl pleidlais y cyhoedd.
Dywedodd Arlywydd Wcráin Volodomyr Zelensky fod dewrder y wlad yn “creu argraff ar y byd.”
Darllenwch fwy yma.
Llun: Twitter/Eurovision