Arestio tri yng Nghaerffili ar amheuaeth o geisio llofruddio
14/05/2022
Heddlu.
Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth ar ôl i ddyn 32 oed gael ei drywanu ger canolfan siopa yng Nghaerffili yn gynnar fore Sadwrn.
Mae’r dyn yn derbyn triniaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru am “anafiadau sy’n peryglu ei fywyd.”
Mae dyn 27 oed, bachgen a merch 17 oed wedi eu harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio.
Cafodd y tri eu cadw yn y ddalfa am gyfnod ond fe'u rhyddhawyd yn hwyrach.
Mae menyw 29 oed gafodd ei hymosod yn y digwyddiad tua 01.35 hefyd wedi derbyn triniaeth yn yr ysbyty ond yn ôl yr heddlu nid yw ei hanafiadau yn peryglu ei bywyd.
Gall unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth gysylltu gyda’r heddlu gan nodi cyfeirnod 2200159970.