Gwleidyddion Cynulliad Gogledd Iwerddon yn methu penodi llefarydd newydd

Mae gwleidyddion Cynulliad Gogledd Iwerddon yn Stormont wedi methu ag ethol llefarydd newydd ar ôl i blaid y DUP ddweud na fyddai'n cefnogi'r broses.
Mae hyn yn golygu na all y weinyddiaeth ddatganoledig lywodraethu yn dilyn etholiad hanesyddol yr wythnos ddiwethaf, lle daeth cadarnhad mai Sinn Féin oedd y blaid fwyaf yn y cynulliad yn hanes y dalaith.
Dywedodd arweinydd y DUP, Sir Jeffrey Donaldson, bod y weithred yn rhan o brotest yn erbyn protocol Gogledd Iwerddon, ond fe wnaeth is Lywydd Sinn Féin, Michelle O'Neill ei gyhuddo o "atal democratiaeth."
Ychwanegodd bod y DUP wedi "cosbi'r etholaeth" a bod y "cyhoedd yn haeddu gwell."
Yn ogystal, mae'r DUP yn gwrthod enwebu dirprwy Brif Weinidog, gweithred a fydd hefyd yn rhwystro creu llywodraeth newydd.
Darllenwch ragor yma.