Manchester United yn diswyddo'r rheolwr Ruben Amorim
Mae Manchester United wedi cyhoeddi eu bod wedi diswyddo rheolwr y clwb, Ruben Amorim.
Mewn datganiad bore dydd Llun, fe ddywedodd y clwb mai dyma oedd “yr amser cywir i wneud newid”.
Daw'r newyddion wedi i’r gŵr o Bortiwgal wneud sylwadau i’r wasg ddydd Sul yn awgrymu fod yna anghydweld rhyngddo fo a phenaethiaid y clwb.
“Ni fyddaf yn rhoi’r gorau iddi. Mi fyddaf yn gwneud fy swydd nes bod yna ddyn arall yn dod i gymryd fy lle,” meddai mewn cynhadledd yn dilyn gêm gyfartal yn erbyn Leeds United.
Diwrnod yn ddiweddarach, ac mae’r clwb wedi cadarnhau bod y cyn rheolwr Sporting Lisbon bellach wedi gadael Old Trafford.
“Mae Ruben Amorim wedi gadael ei rôl fel prif hyfforddwr Manchester United.
“Gyda Manchester United yn chweched yn yr Uwch Gynghrair, mae'r rhai sy'n arwain y clwb wedi gwneud y penderfyniad, gyda chalon drom, mai dyma'r amser iawn i wneud newid.
“Bydd hyn yn rhoi'r cyfle gorau i'r tîm orffen yn y safle uchaf posibl yn yr Uwch Gynghrair.
“Hoffai'r clwb ddiolch i Ruben am ei gyfraniad i'r clwb a dymuno'n dda iddo ar gyfer y dyfodol.”
Bydd Darren Fletcher, cyn chwaraewr ganol cae Manchester United yn cymryd yr awenau dros y tîm yn eu gêm yn erbyn Burnley ddydd Mercher. Ers Gorffennaf mae'r Albanwr wedi bod yn gyfrifol am dîm dan 18 oed y clwb.
Llun: Reuters