Nazanin Zaghari-Ratcliffe yn cyfarfod Boris Johnson yn Downing Street

Mae Nazanin Zaghari-Ratcliffe wedi siarad wyneb yn wyneb gyda Boris Johnson yn Rhif 10 Downing Street brynhawn dydd Gwener.
Roedd y dinesydd Prydeinig-Iranaidd yn Iran fel gweithiwr elusennol pan gafodd ei harestio yn 2016 ar gyhuddiad o gynllwynio i ddymchwel y llywodraeth - cyhuddiad yr oedd hi wedi ei wadu'n llwyr o'r cychwyn.
Ar ôl ymgyrch faith gan ei theulu, fe gafodd hi a dinesydd Prydeinig-Iranaidd arall, Anoosheh Ashoori, eu rhyddhau o'r wlad ym mis Mawrth eleni.
Cyn y cyfarfod dydd Gwener fe ddywedodd llefarydd o Downing Street fod y prif weinidog yn awyddus i'w chyfarfod er mwyn trafod ei phrofiad yn Iran.
Darllenwch ragor yma.