Addewid gan Lywodraeth y DU i gefnogi Sweden a'r Ffindir rhag bygythiadau o Rwsia

The Guardian 11/05/2022
bj

Mae Boris Johnson wedi gwneud addewid i arweinwyr Sweden a'r Ffindir y byddai Llywodraeth y DU yn cefnogi'r ddwy wlad yn erbyn unrhyw fygythiadau gan Rwsia i'r dyfodol.

Yn dilyn ymosodiad Rwsia ar Wcráin mae'r ddwy wlad wedi bod yn ystyried ymuno gyda NATO, ac fe ddywedodd Mr Johnson mewn cyfarfod gyda phrif weinidog Sweden, Magdalena Andersson, ddydd Mercher y byddai Prydain yn cynnig cefnogaeth i'r wlad petai cais yn cael ei wneud gan yr awdurdodau yno.

Yn ddiweddarach fe fydd Mr Johnson yn teithio i'r Ffindir i arwyddo cytundeb tebyg gyda'r llywodraeth yno.

Darllenwch ragor yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.