Rhyfel Wcráin: Rwsia 'yn paratoi ar gyfer rhyfel hir'

Mae Arlywydd Rwsia, Vadimir Putin, yn paratoi ar gyfer rhyfel hir yn Wcráin, meddai cudd-wybodaeth yr Unol Daleithiau.
Daw’r rhybudd wrth i frwydro ffyrnig barhau yn y dwyrain, lle mae Rwsia’n ceisio cymryd tiriogaeth.
Mae milwyr Rwsia yn canolbwyntio ar gipio rhanbarth Donbas ar ôl i Wcráin wrthsefyll ymdrechion i gymryd ei phrifddinas, Kyiv.
Dywedodd Avril Haines, y cyfarwyddwr cudd-wybodaeth cenedlaethol, wrth wrandawiad o bwyllgor Senedd yr Unol Daleithiau ddydd Mawrth fod Mr Putin yn bwriadu "cyrraedd y tu hwnt i'r Donbas”.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Fforwm Economaidd y Byd