Dyn yn marw ar ôl mynd i drafferthion oddi ar arfordir Môn
Creative Commons
Mae dyn 35 oed wedi marw ar ôl mynd i drafferthion tra'n neidio oddi ar glogwyni yn Rhoscolyn, Ynys Môn ar 6 Mai.
Mae Heddlu'r Gogledd yn ymchwilio. Ac yn ôl y llu, doedd y dyn ddim yn byw yn lleol.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r safle amser cinio yn dilyn adroddiadau fod dyn wedi mynd i drafferthion yn y môr. Roedd e'n cymryd rhan mewn gweithgaredd arfordiro, sy'n cynnwys dringo a neidio oddi ar glogwyni. Cafodd ei gludo i ysbyty lle bu farw.
Rhagor o fanylion yma