Newyddion S4C

Disgwyl i Dyfrig Siencyn barhau fel arweinydd Cyngor Gwynedd

09/05/2022
Dyfrig Siencyn - Llun Plaid Cymru Gwynedd

Mae grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd wedi cyhoeddi y bydd Dyfrig Siencyn yn parhau i'w arwain yn ystod tymor nesaf y cyngor sir.

Fe gadwodd y blaid ei mwyafrif ar y cyngor yn dilyn yr etholiadau lleol ddydd Iau, gan ennill 44 o'r 69 sedd.

Cafodd Mr Siencyn ei benodi i barhau fel Arweinydd Grŵp Plaid Cymru Cyngor Gwynedd mewn cyfarfod nos Sul.

O ystyried mwyafrif y blaid ar y cyngor, y disgwyl yw y bydd Mr Siencyn hefyd yn cael ei ethol i barhau fel Arweinydd Cyngor Gwynedd.

Daw hyn ddiwrnod ar ôl i Darren Price gael ei gadarnhau fel arweinydd newydd Grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Sir Gâr wedi i arweinydd y cyngor, Emlyn Dole, golli ei sedd ddydd Gwener.

Llun: Plaid Cymru Gwynedd

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.