Etholiadau Lleol 2022: Canlyniadau cynghorau Cymru
Mae'r cyfri ar ben yn etholiadau lleol Cymru ac mae canlyniadau’r wardiau ar draws y wlad wedi eu cyhoeddi.
Gyda 22 o gynghorau sir yng Nghymru, roedd 1,234 cynghorydd yn cael eu hethol o'r holl ymgeiswyr.
Roedd y cyfri yn parhau yn Sir y Fflint fore Sadwrn wrth i bleidleisiau dwy ward gael eu hail-gyfrif, er nad oedd hi'n bosib i unrhyw un o'r pleidiau ennill mwyafrif yno.
Roedd y canlyniad cenedlaethol yn un siomedig i'r Ceidwadwyr, gyda'r blaid yn colli gafael ar ei rheolaeth o Gyngor Sir Mynwy - yr unig gyngor lle'r oedd y blaid mewn grym yng Nghymru.
Roedd hi'n noson fwy llewyrchus i'r Blaid Lafur, gan sicrhau rheolaeth o Gyngor Pen-y-bont ar Ogwr a Blaenau Gwent, er i'r blaid golli rheolaeth o Gastell-nedd Port Talbot.
Llwyddodd Plaid Cymru i gael mwyafrif ar gynghorau Môn, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin, er i arweinydd y blaid yn Sir Gâr golli ei sedd.
Llwyddodd y Blaid Werdd i gipio nifer o wardiau newydd gan gynnwys dwy yn Sir Ddinbych am y tro cyntaf.
Erbyn bore Sadwrn, dyma oedd canlyniadau'r pleidiau yng Nghymru:
Llafur: 526 cynghorydd (+66)
Annibynnol: 316 cynghorydd (+8)
Plaid Cymru: 202 cynghorydd (-6)
Ceidwadwyr: 111 cynghorydd (-86)
Y Democratiaid Rhyddfrydol: 69 cynghorydd (+10)
Dyma'r darlun o ran rheolaeth y pleidiau ar yr awdurdodau lleol fore Sadwrn:
Abertawe- Llafur yn cadw
Mae Llafur wedi cadw ei mwyafrif ar Gyngor Sir a Dinas Abertawe, gan ennill 45 o seddi.
Blaenau Gwent - Llafur yn Cipio
Mae Llafur wedi cipio Blaenau Gwent oddi wrth yr Annibynwyr, mae'r blaid wedi sicrhau 21 o seddi o gymharu â 13 yn 2017.
Bro Morgannwg - Dim Mwyafrif
Cyngor Sir Bro Morgannwg oedd y canlyniad olaf i gael ei gadarnhau nos Wener wedi i'r pleidleisiau mewn un ward, Dinas Powys, gael eu hail-gyfri. Methodd y blaid Lafur â sicrhau'r seddi oedd eu hangen arni ar gyfer mwyafrif ar y cyngor, gan olygu nad oes gan yr un blaid reolaeth yno.
Caerdydd - Llafur yn Cadw
Mae Llafur wedi cadw ei mwyafrif ar Gyngor Sir Caerdydd, gan ennill 55 o seddi.
Caerffili - Llafur yn Cadw
Mae Llafur wedi cadw ei mwyafrif ar Gyngor Sir Caerffili, gan ennill 45 o seddi.
Casnewydd - Llafur yn Cadw
Mae Llafur wedi cadw ei mwyafrif ar Gyngor Sir a Dinas Casnewydd, gan ennill 35 o seddi.
Castell-nedd Port Talbot - Dim Mwyafrif
Nid oes un o'r pleidiau wedi llwyddo i sicrhau mwyafrif ar Gyngor Sir Castell-nedd Port Talbot. Mae'r blaid Lafur wedi colli'r mwyafrif oedd ganddyn nhw cyn yr etholiad.
Bydd yn rhaid disgwyl nes mis Mehefin am ganlyniad un ward oherwydd marwolaeth ymgeisydd, sy'n golygu nad oes etholiad yno nes 23 Mehefin.
Ceredigion - Plaid Cymru yn sicrhau mwyafrif
Mae Plaid Cymru wedi sicrhau mwyafrif ar Gyngor Sir Ceredigion, gan ennill 20 o seddi ar y cyngor.
Conwy - Dim Mwyafrif
Nid oes un o'r pleidiau wedi llwyddo i sicrhau mwyafrif ar Gyngor Sir Conwy. Mae'r rhan fwyaf o gynghorwyr a gafodd eu hethol yn rhai Annibynnol.
Gwynedd - Plaid Cymru yn Cadw
Mae Plaid Cymru wedi dal ei gafael ar Gyngor Sir Gwynedd, gan gynyddu’r nifer o aelodau oedd ganddyn nhw ar y cyngor o 41 yn 2017 i 44 yn dilyn yr etholiadau ddydd Iau.
Merthyr Tudful - Dim Mwyafrif
Mae'r Grŵp Annibynnol ar Gyngor Sir Merthyr Tudful wedi colli rheolaeth o'r cyngor, gyda Llafur a'r Annibynwyr yn gyfartal yn y sir o ran nifer y seddi sydd ganddyn nhw.
Pen-y-bont ar Ogwr - Llafur yn sicrhau mwyafrif
Mae Llafur wedi sicrhau mwyafrif ar Gyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr. Yn flaenorol, Llafur oedd y blaid fwyaf ond nid oedd ganddyn nhw fwyafrif ar y cyngor.
Powys - Dim Mwyafrif
Nid oes yr un blaid ar Gyngor Sir Powys wedi llwyddo i sicrhau mwyafrif aelodau'r cyngor, ond erbyn hyn y Democratiaid Rhyddfrydol yw'r brif blaid. Yn 2017, y Ceidwadwyr oedd ar frig y rhestr honno.
Sir Benfro - Dim Mwyafrif
Mae'r mwyafrif o aelodau sydd wedi eu hethol i Gyngor Sir Penfro yn rhai annibynnol wedi i'r holl seddi gael eu cadarnhau.
Sir Ddinbych - Dim Mwyafrif
Nid oes un o'r pleidiau wedi llwyddo i sicrhau mwyafrif ar Gyngor Sir Ddinbych. Mae'r rhan fwyaf o gynghorwyr a gafodd eu hethol yn rhai Llafur.
Sir Fynwy - Dim Mwyafrif
Mae'r Ceidwadwyr wedi colli rheolaeth ar yr unig gyngor lle'r oedd ganddyn nhw fwyafrif. Maen nhw bellach yn ail blaid fwyaf ar y cyngor, wedi'r blaid Lafur.
Sir Gaerfyrddin - Plaid Cymru yn sicrhau mwyafrif
Mae Plaid Cymru wedi sicrhau mwyafrif ar Gyngor Sir Gaerfyrddin, roedd y blaid mewn clymblaid â’r Grwp Annibynnol yn flaenorol.
Sir y Fflint - Dim Mwyafrif
Nid oedd mwyafrif i unrhyw blaid yn Sir y Fflint wedi i'r cyfri ddod i ben fore Sadwrn. Llafur yw'r grŵp mwyaf ar y cyngor, gyda 31 o aelodau.
Rhondda Cynon Taf - Llafur yn Cadw
Mae'r Blaid Lafur wedi cadw gafael ar Gyngor Sir Rhondda Cynon Taf , gan sicrhau 60 o'r 75 sedd.
Torfaen - Llafur yn Cadw
Mae'r Blaid Lafur wedi cadw gafael ar Gyngor Sir Torfaen, gan sicrhau 30 o'r 40 sedd.
Wrecsam - Dim Mwyafrif
Nid oes mwyafrif gan unrhyw blaid ar Gyngor Sir Wrecsam, mae'r rhan fwyaf o gynghorwyr - 23 ohonyn nhw - yn aelodau Annibynnol.
Ynys Môn - Plaid Cymru yn sicrhau mwyafrif
Mae Plaid Cymru wedi sicrhau mwyafrif ar Gyngor Sir Ynys Môn, roedd y blaid yn arwain y cyngor yn flaenorol ond nid oedd ganddi fwyafrif.