Newyddion S4C

Arweinydd Cyngor Sir Gâr, Emlyn Dole, yn colli ei sedd

06/05/2022
S4C

Mae Arweinydd Cyngor Sir Gâr, Emlyn Dole wedi colli ei sedd ar y cyngor.

Roedd y gwleidydd yn sefyll dros Blaid Cymru yn ward Llannon, lle'r oedd dwy sedd i'w hennill.

Mae un cynghorydd Llafur ac un Plaid Cymru wedi eu hethol dros y ward.

Derbyniodd Mr Dole 561 o bleidleisiau, ond cafodd ei gyd-ymgeisydd Plaid Cymru, Llinos Mai Davies 568 o bleidleisiau, a Dot Jones o’r Blaid Lafur 594 o bleidleisiau.

Mae Mr Dole wedi bod yn gynghorydd sir am 14 mlynedd a saith o'r rheiny fel arweinydd.

Am fwy o straeon o'r etholiad, ewch i is-hafan Etholiadau Lleol 2022 ar wefan Newyddion S4C.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.