Newyddion S4C

Capel Soar y Mynydd yn paratoi i ddathlu pen-blwydd arbennig yn 200

Newyddion S4C 08/05/2022
Capel Soar y Mynydd

Fe fydd gwasanaethau yn ail-ddechrau yn un o gapeli mwyaf eiconig ac anghysbell Cymru ar ôl cau'r drysau yn ystod y pandemig.

Cafodd capel Soar y Mynydd ei godi ym 1822 rhwng Tregaron a Llyn Brianne, i wasanaethu ffermwyr mynyddoedd y Cambrian. Roedd hefyd yn cael ei ddefnyddio gan y porthmyn wrth iddyn nhw yrru defaid tuag at farchnadoedd Llundain.

Ond roedd gan yr ardal gysylltiad ysbrydol ers cyn adeiladu'r capel, yn ôl Cyril Evans, Cadeirydd Tregaron and District Historical Society.

Image
Cyril Hughes
Mae gan y capel gysylltiad ysbrydol medd Cyril Hughes

Dywedodd: "Ma'r lle 'ma wedi bod yn ysbrydol ers miloedd o flynyddoedd. Ma gyda chi'r carneddau sydd ar gopaon y bryniau lleol yn coffau beddrodau, hefyd mae gyda chi'r meini hir. Wrth gwrs nepell o fan hyn mae gyda chi Abaty Ystrad Fflur felly allwch chi ddim mynd yn fwy ysbrydol 'na hynny."

 "Ar y dechrau roedd pobl yn teithio o un ffermdy i'r llall. Pregethwyr mawr fel Howell Harris a Daniel Rownland yn cwrdd mewn ffermdai, cynnal cwrdd gweddi ac wrth gwrs mewn ceginau eitha bach. Wrth gwrs wrth i'r gynulleidfa dyfu roedd angen mwy o le ac felly fe gafodd les ei roi ar yr adeilad yma ac fe gafodd y tir ei roi gan deulu Nantllwyd."

Mae cyrraedd y capel yn brofiad yn ei hun. Mae'n naw milltir i'r dre agosaf, Tregaron. Y ffordd gul a throellog ar hyd y mynydd yw'r unig ffordd i gyrraedd y capel, gyda defaid yn pori ar y bryn a'r barcud coch yn teyrnasu yn yr awyr.

Ond unwaith i chi gyrraedd, mae Soar y Mynydd yn fan tawel, heddychlon, lle mae 'na lonyddwch i  weddïo. Mae'r adeilad gwyngalchog yn eich croesawi ynghanol y môr o wyrdd a brown o goed a phorfa. Does dim yno i ddenu'ch sylw, dim trydan, dim signal ffôn. Does dim gwres chwaith. Dim cysylltiad â'r byd tu fas.

Image
Capel Soar y Mynydd
Soar y Mynydd yw un o gapeli mwyaf anghysbell Cymru

Mae niferoedd sy'n mynychu'r capel wedi gostwng dros y blynyddoedd. Rhyw 10-12 o bob sy'n dod i'r gwasanaethau yn rheolaidd ac mae'r capel ar gau yn ystod y gaeaf - yr amodau caled yn ei gwneud hi'n anodd i deithio yma.

 Ond mae'n stori wahanol yn ystod misoedd yr haf, wrth i bobl deithio i Soar o bedwar ban byd. Roedd cyn arlywydd America, Jimmy Carter wedi ymweld â'r lle yn 1986 tra ar ei wyliau yn yr ardal.

 Mae tymor y gwasanaethau haf hefyd yn denu ymwelwyr. Pererinion ac addolwyr yn teithio i'r man anghysbell yma mewn niferoedd. 

Ond am ddwy flynedd roedd yn rhaid cau drysau'r capel oherwydd Covid. Dydd Sul 8 Mai fydd y tro cyntaf y bydd gwasanaeth yn cael ei gynnal ers y pandemig.

Image
Lyn Ebenezer
Bydd Lyn Ebenezer yn arwain y gwasanaeth dathlu

Lyn Ebenezer fydd yn arwain y gwasanaeth hwnnw.

 "Wel bob tro dwi'n dod i Soar y Mynydd mae e fel chwa o awel iach, yn llythrennol. Mae'r awel yn burach lawer fan hyn nac ar lawr gwlad. Ond mae cael dod nol i ail-agor Soar ar ol dwy flynedd nid yn unig yn bleser ond yn fraint. Dwi'n teimlo braint dim ond dod 'ma, ond mae cael pregethu yma hefyd, hwn dwi'n credu bydd y trydydd neu'r pedwerydd tro i fi cael gwneud, ond y tro cynta i fi gael agor y tymor, felly dwi'n teimlo'n tipyn o foi."

 "Ma nhw'n dod o bob rhan o Gymru ac o Loegr a dweud y gwir. Dwi wedi clywed pobl yn dweud 'gimmick yw hwn, pam mynd lan fynna, 10 milltir o Dregaron'. Wel na, mae'n brofiad ysbrydol i ddod ma, a dwi wrth fy modd yn dod ma."

Image
Lynwen Hughes
Mae teulu Lynwen Hughes wedi edrych ar ôl y capel am flynyddoedd

Mae Lynwen Hughes, ysgrifennydd y capel, yn dilyn ôl-troed ei chyndeidiau sydd wedi edrych ar ôl Soar ers blynyddoedd. 

 "Dwi'n credu bod y teulu wedi bod ynghlwm a'r capel o'r dechrau. Ond fe dechreuodd fy wncwl yn y 1970au, pan ail-ddechreuodd y capel eto ar ol amser tawel iawn. Ers hynny mae'r teulu wedi bod yn gwneud lot gyda'r capel. Roedd fy mam a fy wncwl yn byw yn Brynambor sydd rhyw 4 milltir o'r capel 'ma. Roedd fy hen datcu yn flaenor yn y capel am dros 50 mlynedd mae'n debyg."

 Ar ôl cau Soar am ddwy flynedd oherwydd Covid, mae Lynwen yn falch o weld y drysau yn agor eto wrth i'r capel ddathlu pen-blwydd arbennig yn 200.

 "Mae'n gyffrous iawn a dweud y gwir. Ni'n barod ac yn edrych ymlaen i groesawu pawb nol i addoli yma eto. Mae wedi bod yn eitha diflas. Mae wedi bod yn hir ac yn amser ansicr hefyd yn enwedig llynedd a oedden ni'n mynd i agor neu beidio, ond leni ni'n hapus iawn bod ni'n gallu agor unwaith eto."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.