Etholiadau Lleol yr Alban 2022: SNP yn gorffen fel y blaid fwyaf

Mae’r SNP unwaith eto wedi gorffen fel y blaid fwyaf yn etholiadau lleol yr Alban – gyda Llafur yn gorffen yn ail.
Mae'r SNP wedi sicrhau'r mwyafrif cyffredinol yn Dundee, tra enillodd Llafur reolaeth ar Orllewin Swydd Dunbarton.
Ond collodd y Ceidwadwyr fwy na 60 o gynghorwyr ar draws y wlad.
Dywedodd arweinydd y blaid Geidwadol, Douglas Ross, ei fod yn credu bod dicter y cyhoedd dros ‘partygate’ wedi chwarae rhan fawr yn y canlyniadau.
Mae mwy na 1,200 o gynghorwyr wedi’u hethol ar draws 32 o gynghorau’r wlad.
Darllenwch y stori'n llawn yma.