Newyddion S4C

Owain Doull: 'On i 'di penderfynu 'on i angen newid'

Newyddion S4C 07/05/2022

Owain Doull: 'On i 'di penderfynu 'on i angen newid'

Gyda'r Giro d'Italia wedi dechrau ddydd Gwener, mae'r seiclwr o Gymru, Owain Doull, yn edrych ymlaen am sialens newydd.

Ar ôl pum mlynedd gydag Ineos Grenadiers, fe wnaeth Owain benderfynu ymuno â thîm EF Education-EasyPost y llynedd, gan ddweud mai'r cymhelliant oedd yr awydd i gystadlu yn rhai o gystadlaethau mwyaf y byd seiclo, megis y Giro neu'r Tour de France. 

"Hwnna oedd y prif reswm, fi'n credu o'dd e 'di dod i pwynt blwyddyn diwethaf ble 'on i'n teimlo 'on i mewn lle dda, 'on i'n raso'n dda a dylen i 'di cael lle yn ras fwy, ag odd y tîm (Ineos) ddim 'di rhoi lle i fi," meddai Owain.

Yn ôl Owain, dyma wnaeth gadarnhau bod "angen newid" arno.

"Smo fi eisiau gorffen gyrfa fi gydag unrhyw regrets neu unrhyw beth fel yna felly ie neud y switch."

Enillodd Owain y fedal aur yn nhîm pedwarawd beicio Prydain yng Ngemau Olympaidd Rio de Janeiro yn 2016, gan olygu mai fo oedd y Cymro Cymraeg cyntaf i ennill medal aur mewn Gemau Olympaidd.

Mae cymal cyntaf y Giro bellach wedi dod i ben yn Budapest, gyda'r ras yn parhau am dair wythnos ac yn gorffen ar 29 Mai, gyda S4C yn dangos pob cymal. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.