Bachgen byddar yn clywed cerddoriaeth yn eglur am y tro cyntaf

ITV Cymru 07/05/2022
S4C

Mae bachgen yn ei arddegau sy’n caru cerddoriaeth yn gallu clywed yn eglur am y tro cyntaf, diolch i gymorth clyw â’r dechnoleg ddiweddaraf.

Wedi’i eni’n hollol fyddar, Gethin Davies yw’r person cyntaf yn ardal Abertawe i gael un o’r cymhorthion clywed newydd sydd ar gael gan y Gwasanaeth Iechyd – y Danalogic Ambio Smart.

Gall y cymhorthion ffrydio’n ddi-wifr o ffôn neu ddyfais Bluetooth.

Mae hyn yn golygu bod y bachgen 15 oed bellach yn gallu clywed cerddoriaeth yn llawer mwy clir ac ateb galwadau ffôn.

“Rwy’n falch iawn o fod y person cyntaf i gael y cymhorthion clyw newydd hyn,” meddai Gethin wrth ITV.

Eglurder lleferydd

Mae hyn yn cael ei wneud i gyd trwy ap, sydd hefyd yn caniatáu i addasiadau gael eu gwneud i eglurder lleferydd, sŵn a chyfeiriadedd, gan helpu Gethin i ganolbwyntio ar sain benodol.

Ychwanegodd Gethin: “Roeddwn i’n arfer ei chael hi’n anodd clywed sgyrsiau mewn amgylcheddau prysur fel yr ystafell fwyta, y maes chwarae ac yn ystod chwaraeon, lle mae pobl yn symud o gwmpas.

“Rwyf wedi addasu i hyn dros y blynyddoedd ond yn fwy diweddar darganfyddais fod defnyddio ffôn symudol a gwrando ar gerddoriaeth yn llawer anoddach gan ei bod yn cymryd amser i ddod o hyd i glustffonau a fyddai’n mynd dros fy nghymhorthion clyw heb achosi llawer o darfu.”

Yn ogystal â hyn, mae’r cymhorthion clywed newydd yn lleihau'r risg o leithder sy'n effeithio ar ei ddyfeisiau clyw tra’n cystadlu mewn chwaraeon.

“Sylwais pan oeddwn yn cystadlu mewn chwaraeon, roedd adran batri fy nghymhorthion yn mynd yn llawn chwys. Byddai hyn weithiau’n arwain at ddiffodd y ddyfais, sydd yn amlwg ddim yn wych ac yn effeithio’n fawr ar fy mwynhad.”

Mae’r cynhorthion clyw newydd yn golygu bod ei fwynhad o chwaraeon a cherddoriaeth, yn arbennig, wedi cynyddu’n sylweddol, ynghyd â bod o fudd i’w gyfathrebu â theulu, ffrindiau ac yn yr ysgol.

Ar ôl gwisgo cymhorthion clywed ers yn 11 wythnos oed, mae’r dechnoleg newydd wedi rhoi mwy o annibyniaeth i Gethin.

Gwnaeth Sarah Theobald, pennaeth gwasanaethau awdioleg, a Natalie Phillips, pennaeth awdioleg bediatrig Bae Abertawe, helpu Gethin i gael y cymorth clyw cyntaf o’i fath yn yr ardal.

Image
Natalie Phillips a Sarah Theobald o adran awdioleg Bae Abertawe
Natalie Phillips a Sarah Theobald o adran awdioleg Bae Abertawe

Dywedodd Sarah Theobald: “Mae technoleg cymorth clywed yn gwella’n gyson o ran ansawdd sain ac o ran gwneud cymhorthion clywed yn haws i’w defnyddio ynghyd â’r holl ddyfeisiau eraill sydd gennym yn ein bywyd nawr.

“Bydd clywed trwy gymorth clywed bob amser yn wynebu ei heriau ond mae pob cenhedlaeth o gymhorthion clywed yn darparu rhywfaint o fudd dros yr un diwethaf, felly mae'n wych gallu darparu'r gwelliannau hyn i'n cleifion pan fydd angen uwchraddio cymorth clyw arnynt.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.