Etholiadau Lleol 2022: Plaid Cymru'n hawlio mwyafrif ar Gyngor Gwynedd

06/05/2022
yr achosion yng Ngwynedd yn parhau'n uchel yn ôl y grŵp. Llun: Google Earth
 yr achosion yng Ngwynedd yn parhau'n uchel yn ôl y grŵp.  Llun: Google Earth

Mae Plaid Cymru wedi sicrhau mwyafrif o gynghorwyr ar Gyngor Gwynedd yn etholiadau lleol 2022. 

Roedd 69 o wardiau yn y fantol ar gyfer yr awdurdod, gyda 28 o seddi'n rhai di-wrthwynebiad - y nifer uchaf yng Nghymru.

Ymysg y wardiau lle bu Plaid Cymru'n llwyddianus roedd Glaslyn, Groeslon, Bethel, y Felinheli, Clynnog, Llanwnda, Llanberis ac fe wnaeth ymgeiswyr sicrhau dwy sedd yn ward newydd Canol Bangor.

Cafodd y ffotograffydd adnabyddus Arwyn 'Herald' Roberts ei ethol ar ran y Blaid yn ward Tryfan, gyda Dyfrig Siencyn, Arweinydd y Cyngor yn cadw ei sedd yng Ngogledd Dolgellau.

Fe enillodd June Jones ward newydd Glaslyn, gan drechu Alwyn Gruffydd, un o hoelion wyth plaid Llais Gwynedd.

Am fwy o straeon o'r etholiad, ewch i is-hafan Etholiadau Lleol 2022 ar wefan Newyddion S4C.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.