Newyddion S4C

Penodi'r fenyw ddu gyntaf fel ysgrifennydd y wasg yn y Tŷ Gwyn

The Washington Post 06/05/2022
S4C

Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Joe Biden, wedi penodi'r fenyw ddu gyntaf ac o'r gymuned LHDTC+ fel ysgrifennydd newydd y wasg yn y Tŷ Gwyn. 

Bydd Karine Jean-Pierre yn cymryd yr awenau gan Jen Psaki pan y bydd hi'n gadael ei swydd yr wythnosau nesaf. 

Daw hyn wrth i'r Democratiaid wynebu heriau economaidd a gwleidyddol, ychydig fisoedd cyn yr etholiadau canol tymor, gyda llawer yn disgwyl y bydd y Gweriniaethwyr yn gwneud cynnydd sylweddol.

Dywedodd yr Arlywydd Biden bod gan "Karine y profiad, y talent a'r hygrededd sydd ei angen ar gyfer y swydd anodd yma, ond bydd hi hefyd yn parhau i arwain y ffordd wrth gyfathrebu am y gwaith mae gweinyddiaeth Biden-Harris yn ei wneud ar rhan pobl America."

Darllenwch fwy yma

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.