Ymchwilio i droseddau rhyw hanesyddol honedig mewn cangen o Gadetiaid Môr
06/05/2022
Heddlu.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cyhoeddi eu bod yn ymchwilio i honiadau o droseddau rhyw hanesyddol honedig yng nghangen Cadetiaid Môr y Rhyl.
Mae eu hymchwiliad yn edrych ar gyfnod rhwng 1978 a 1989.
Mae swyddogion yn gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth all fod o gymorth i'w hymchwiliad i gysylltu gyda nhw.
Pwysleisiodd y llu y byddai unrhyw wybodaeth yn cael ei drin yn gyfrinachol ac mewn dull sensitif.
Dywed yr heddlu bod modd i rai sydd gyda gwybodaeth gysylltu drwy ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost opbluealwen@northwales.police.uk