
Anhwylderau bwyta: 'Kim Kardashian yn anfon neges anghywir'

Anhwylderau bwyta: 'Kim Kardashian yn anfon neges anghywir'
Mae’r seren realiti Kim Kardashian yn rhoi’r neges anghywir o ran diets, yn ôl menyw ifanc sydd wedi byw ag anhwylder bwyta.
Yn ystod digwyddiad Gala'r Met yn Efrog Newydd nos Lun fe siaradodd y seren yn agored am ddefnyddio 'crash diet' i golli pwysau'n sydyn er mwyn gallu gwisgo ffrog enwog ar y noson.
Yn ystod y digwyddiad, gwisgodd Kim Kardashian ffrog gafodd ei gwisgo'n wreiddiol gan Marilyn Monroe yn 1962, pan ganodd hi 'Benblwydd Hapus' i'r arlywydd John F Kennedy.
Ond er mwyn gallu gwisgo'r ffrog roedd yn rhaid i Kim Kardashian golli 16 pwys mewn tair wythnos.
Dywedodd Ms Kardashian: “Fe wnes i roi hi arno ac nid oedd yn ffitio. Roedd gen i dair wythnos ac roedd rhaid i mi golli 16 pwys.
“Roeddwn yn benderfynol o ffitio i mewn iddi. Doedd pobl ddim yn meddwl ei fod yn bosib, ond fe wnes i e."

'Golau negyddol iawn'
Mae Lois John o Gapel Iwan yn Sir Gaerfyrddin wedi byw ag anhwylder bwyta ers yn ifanc.
Dywedodd wrth Hansh/Dim Sbin ei bod hi’n drist iawn pan ddarllenodd sylwadau Kim Kardashian, ac mae'n pryderu am yr effaith y gallai hyn ei gael ar bobl sy’n byw ag anhwylderau bwyta.
“Roedd hi’n siarad yn bositif iawn am beth roedd hi wedi gwneud, fel roedd e’n rhyw fath o her i allu cyflawni hyn", meddai Lois.
“Mae hwn yn dod â golau negyddol iawn, yn enwedig gan bod llais Kim Kardashian yn gryf yn y byd cymdeithasol.
“Ond hefyd mae’n fel ysbrydoliaeth i lot o bobl yn enwedig i ferched ifanc.
“Mae hi’n danfon y neges anghywir, yn enwedig i bobl sydd ar siwrnai eu hunain gydag anhwylderau bwyta, neu bobl sydd ar ddechrau eu siwrnai.
"Efallai bod beth mae hi newydd ddweud yn gwthio nhw yn y cyfeiriad anghywir.”
Bellach mae Lois yn fyfyrwraig parafeddygaeth yn ei hail flwyddyn yn y brifysgol ac wedi gwella ar ôl byw ag anorecsia.
Dywedodd: “I fi nawr fel rhywun sydd wedi gwella o ran yr anhwylder yn gyfan gwbl, mae fe dal yn anodd clywed pethau fel hyn achos fi’n gwybod mae yna bobl allan yna yn gwrando arnyn nhw, achos dwi’n gwybod ‘na beth fydden i ‘di gwneud yn y dyddiau tywyll.
“Petai fi’n ôl yn y cyflwr oeddwn i o’r blaen, bydden i’n dilyn pob hashtag i glywed mwy am y mater a byddwn i wedi cael fy nylanwadu.
“Ond mae’n rhaid meddwl, er nad oeddwn i’n teimlo fe ar y pryd, mae yna ddigon o reolaeth gyda chi i frwydro'r diafol yna yn eich pen ac i allu gwella.”
'Cysylltu â'u meddyg'
Mae BEAT, yr elusen ar gyfer anhwylderau bwyta, yn amcangyfrif bod 1.25 miliwn o bobl yn y DU yn byw ag anhwylderau bwyta.
Dywedodd Cyfarwyddwr Materion Allanol BEAT, Tom Quinn: “Gall cyngor ar ddiet a cholli pwysau fod yn ddeniadol iawn i'r rhai sy'n cael eu heffeithio gan anhwylderau bwyta.
"Rydym yn annog yn gryf unrhyw un sydd wedi'u heffeithio gan anhwylder bwyta neu sy'n poeni am eu hiechyd i beidio â cheisio copïo unrhyw awgrymiadau dietegol y maent yn eu clywed, ac i gysylltu â'u meddyg teulu neu dîm gofal os ydynt yn teimlo'n sâl."
Mae modd cael mwy o wybodaeth am y stori hon ar gyfryngau cymdeithasol Hansh Dim Sbin.
Am gymorth gydag anhwylderau bwyta, darllenwch fwy ar S4C Cymorth.
Llun: Twitter @KimKardashian