Llwybr Arfordir Cymru yn dathlu degawd ers ei greu

Llwybr Arfordir Cymru yn dathlu degawd ers ei greu

Mae Llwybr Arfordir Cymru yn dathlu deng mlynedd ers ei lansiad swyddogol yn 2012 ddydd Iau.

Fel rhan o’r dathliadau mae’r llwybr wedi ymuno â Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru a’r ysgrifennwr Deiniol Tegid i greu 20 o deithiau cerdded arbennig.

Mae’r teithiau newydd yn cyfuno Llwybr Arfordir Cymru, sy’n 870 milltir o hyd, ag ymweliadau â rhai o gestyll a safleoedd hanesyddol mwyaf eiconig Cymru.

Gobaith y teithiau yw rhoi cyfle i bobl Cymru - a thu hwnt – ddarganfod arfordir Cymru o’r newydd.

Mae’r amrywiaeth o deithiau cerdded yn cynnwys llwybrau o bob rhan o arfordir Cymru ac o bob gallu, gan gynnwys rhai teithiau trefol a hygyrch.

'Symbol o harddwch naturiol Cymru'

Dywedodd Deiniol Tegid, awdur y teithiau: “Ers ei agor yn swyddogol yn 2012, mae Llwybr Arfordir Cymru wedi dod yn symbol o harddwch naturiol Cymru. Ac ar ôl cerdded deunaw o’r ugain taith fy hun, dw i wedi gweld y cyfoeth o hanes a diwylliant sydd i’w ddarganfod ar ei hyd â’m llygaid fy hun.

“Diolch i gyfraniadau Cadw, bydd pawb bellach yn gallu mwynhau Llwybr Arfordir Cymru law yn llaw â threftadaeth gyfoethog y wlad yn ystod y flwyddyn arbennig hon o ddathlu.”

Yn ôl Gwilym Hughes, Pennaeth Cadw, bydd y bartneriaeth rhwng Cadw a Llwybr Arfordir Cymru’n rhoi’r “cyfle i bobl leol a thwristiaid ddarganfod Cymru o’r newydd – gan ddefnyddio’r teithiau cerdded hyn sy’n hawdd eu dilyn ac yn llawn gwybodaeth.

“Mae’n wych gweld ein safleoedd yn cael eu cydnabod am eu pwysigrwydd hanesyddol fel hyn, ac edrychwn ymlaen at groesawu ymwelwyr – yr hen a’r newydd – i’n safleoedd arfordirol yn ystod y flwyddyn hon o ddathlu degfed pen-blwydd y llwybr.”   

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.