Gwerthu ci defaid er mwyn codi arian ar gyfer pobl Wcráin

Gwerthu ci defaid er mwyn codi arian ar gyfer pobl Wcráin

Mae arwerthwyr yn Nolgellau yn codi arian ar gyfer pobl Wcráin drwy werthu ci defaid ifanc mewn ocsiwn. 

Bydd yr holl elw o arwerthiant Kim Jnr yn mynd tuag at apêl DEC sydd yn darparu cymorth i bobl Wcráin yn sgil yr ymosodiadau parhaol ar y wlad gan luoedd Rwsia. 

Mae arwerthwyr ym Marchnad Ffermwyr Dolgellau yn disgwyl pris uchel am y ci bach 11 wythnos oed wrth ystyried ei linach teuluol. 

Cafodd ei fam - Kim Snr - ei gwerthu am y swm uchaf erioed ar gyfer ci defaid wedi i ffermwr o Sir Stafford dalu dros £27,000 amdani yn 2021. 

Mae Eamonn Vaughan bellach wedi penderfynu gwerthu unig ast Kim Snr er mwyn codi arian i'r bobl sydd yn dioddef yn Wcráin.  

Dywedodd prif weithredwr Marchnad Ffermwyr Dolgellau, Rhys Davies wrth Newyddion S4C ei fod yn "fraint" bod Mr Vaughn wedi eu dewis i werthu'r ci bach. 

Yn ôl Mr Davies, mae gan Mr Vaughn gysylltiad busnes gydag Wcráin ac yn teimlo ei fod angen gwneud rhywbeth i gyfrannu at yr apêl i helpu'r bobl sydd yn byw yno. 

"Fel dwi'n dallt, mae da Mr Vaughn busnes llwyddiannus ac mae genno fo gysylltiadau trwy'r busnes hefo dwyrain Ewrop a Wcráin," meddai. 

"Mae'n teimlo bod o'n rhywbeth bach fedro o wneud tuag at be' sy'n mynd mlaen yno." 

Image
Ci Defaid
Bydd yr holl elw o werthiant Kim Jnr yn mynd tuag at apêl DEC i gefnogi pobl Wcráin.

'Braint'

"Oedd o'n fraint iddi ni fod o'n dewis ni fel arwerthwyr i werthu'r ci bach yn y lle cynta', hynny'n fraint yn ei hun 'lly," ychwanegodd. 

"Ond iddo fo wedyn cysylltu a dweud bod gen o awydd gwneud hyn a byswn ni'n cefnogi fo.

"Yn amlwg byddwn yn cefnogi, dydyn ni ddim yn mynd i gymryd dim byd allan o hwn ein hunain.

"Bydd yr holl incwm na wedyn yn mynd drosodd i'r apêl." 

Ar adeg cyhoeddi, roedd pris Kim Jnr wedi cyrraedd dros £4,000. 

Mae disgwyl i'r swm gynyddu ymhellach cyn i'r arwerthiant ddod i ben am 15:30 ddydd Mercher. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.