Cymro wedi ei anafu wrth ymarfer ar gyfer 'America's Got Talent: Extreme'

Fe wnaeth Cymro o Sir Benfro ddioddef anafiadau difrifol tra'n ceisio dianc o uchder wrth ymarfer ar gyfer sioe 'America's Got Talent: Extreme' ym mis Hydref.
Mae Jonathan Goodwin yn enwog am ei gamp o ddianc o sefyllfaoedd peryglus fel 'escapologist'.
Mewn cyfweliad dywedodd ei ddyweddi Amanda Abbington fod y Cymro 42 oed wedi ei anafu wrth gael ei wasgu rhwng dau gar oedd ar dân fel rhan o'r ymarferiad.
Fe ddioddefodd Goodwin nifer o anafiadau difrifol ar ôl disgyn 30 troedfedd, ac mae nawr mewn cadair olwyn ar ôl torri ei gefn.
Darllenwch ragor yma.
Llun: ITV