NFU Cymru yn annog lleihau allyriadau carbon ar ffermydd
Mae undeb amaethyddol NFU Cymru yn cynnal digwyddiad ddydd Mercher a fydd yn ystyried ffyrdd o leihau allyriadau carbon ar ffermydd.
Mae'r achlysur yn cael ei gynnal ar Faes Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru yn Llanelwedd. Y nod yw edrych ar gyfleoedd i leihau costau ynni, ac ystyried ffyrdd o leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.
Dywedodd Llywydd NFU Cymru, Aled Jones: “O ystyried yr heriau presennol sy’n wynebu’r diwydiant amaethyddol, ni fu erioed amser mwy cyfleus i ffermwyr edrych ar ffyrdd newydd o ddal carbon a sbarduno arbedion effeithlonrwydd ar ffermydd.
“Bydd y digwyddiad hwn yn rhoi cyngor ymarferol i fusnesau amaethyddol i gyflwyno newidiadau cadarnhaol ar y fferm a bydd sesiynau’r prynhawn yn caniatáu i ffermwyr geisio gwybodaeth bersonol mewn perthynas â’u ffermydd eu hunain.”
Mae disgwyl trafodaethau gan arbenigwyr yr NFU am yr arferion diweddaraf a gan aelodau NFU Cymru am eu profiadau ar lawr gwlad.
Bydd gweithdai hefyd yn cael eu cynnal ar gyfer aelodau sy'n awyddus i gael manylion ymarferol, ac i'r rhai sy'n asesu'r camau penodol nesaf ar gyfer eu ffermydd.