Newyddion S4C

Chwaraewr pêl-droed Cymru, David Brooks yn rhydd o ganser

03/05/2022
David Brooks

Mae’r chwaraewr pêl-droed David Brooks wedi cyhoeddi ei fod bellach yn rhydd o ganser wedi iddo dderbyn triniaeth.

Mewn datganiad ar wefan Twitter ddydd Mawrth, dywedodd: “Rwy'n falch iawn o ddweud bod y driniaeth wedi bod yn llwyddiannus a gallaf ddweud fy mod yn rhydd o ganser.”

Mis Hydref y llynedd, rhannodd Brooks, sydd yn chwarae dros Gymru a Bournemouth, ei fod wedi derbyn diagnosis o Hodgkin Lymphoma Cam II.

Dywedodd bryd hynny fod y newyddion wedi bod yn “sioc” iddo ef a’i deulu.

Fe ddechreuodd Brooks ar driniaeth ar gyfer y cyflwr ar ôl iddo chwarae mewn rhai o gemau Cymry ym mhencampwriaeth Euro 2020. Ond bu’n rhaid iddo ildio ei le yn y garfan ar ôl cael ei daro’n wael.

Mae Brooks wedi chwarae dros Gymru ers 2017, ac fe ymunodd â Bournemouth yn 2018.

Ychwanegodd: “Dwi’n hynod ddiolchgar am yr holl negeseuon dwi wedi ei dderbyn. Roedd y rhain yn help mawr i mi drwy’r amseroedd anodd.”

Dywedodd hefyd ei fod yn edrych ymlaen at ganolbwyntio ar ei iechyd, ffitrwydd a’i yrfa.

“Rwy’n benderfynol o weithio’n galed dros y misoedd i ddod ac ni allaf aros i chwarae o’ch blaen ar y cae yn y dyfodol agos.”

Llun: Asiantaeth Luniau Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.