Apêl am wybodaeth ar ôl i ddyn farw wedi gwrthdrawiad yng Ngheredigion
03/05/2022
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i wrthdrawiad angheuol yng Ngheredigion ddydd Gwener.
Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng beic modur Honda lliw arian a BMW du, ar ffordd y B4576 rhwng Llanfarian a Llangwyryfon ychydig cyn 15:15.
Bu farw'r dyn 62 oed a oedd yn gyrru'r beic modur yn y fan a'r lle.
Mae gyrrwr y BMW yn cynorthwyo'r heddlu gyda'u hymholiadau.
Mae'r llu yn gofyn i bobl sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio cyfeirnod DP-20220429-251.