Cymro o Wrecsam yn rownd derfynol MasterChef
Fe fydd Cymro o Wrecsam yn cystadlu am deitl pencampwr MasterChef UK 2022 nos Fawrth.
Bydd Ioan Jones, 38 oed, sydd bellach yn byw yn Salford, yn cystadlu i geisio ennill y gyfres deledu.
Dim ond tri chystadleuydd arall sydd bellach yn y ras i gipio tarian MasterChef.
Mae Jones o deulu o ffermwyr ac fe gafodd ei fagu yng nghefn gwlad yn Rhuthun cyn symud i Wrecsam. Dywedodd bod hyn yn golygu ei fod yn "deall a pharchu gwreiddiau" ei gynnyrch.
Cyn iddo ymuno â'r gyfres, dywedodd fod ymddangos fel cystadleuydd ar MasterChef "wastad wedi bod yn freuddwyd imi".
Dywedodd hefyd fod cystadlu yn y gyfres yn "gyfle oes" a'i fod yn awyddus i "ddangos ei angerdd".
Fe fydd rownd derfynol MasterChef yn cael ei darlledu ar BBC One nos Fawrth a nos Iau am 20:00.