Rhyfel Wcráin: Symud dros 100 o sifiliaid oedd dan warchae ym Mariupol

Mae dros 100 o sifiliaid oedd yn gaeth mewn safle gwaith dur yn ninas Mariupol wrth i luoedd Rwsia frwydro i gipio rheolaeth ar yr ardal wedi eu symud oddi yno.
Gwaith dur Azovstal yw un o gadarnleoedd olaf lluoedd Wcráin yn y ddinas, ac mae'r sifiliaid oedd yn gaeth yno wrth i ymladd ffyrnig fynd ymlaen wedi byw mewn amgylchiadau truenus.
Dywedodd arlywydd Wcráin, Volodymyr Zelensky, fod disgwyl i dros 100 o sifiliaid oedd yn bennaf yn cynnwys menywod a phlant, i gael eu symud i ddinas Zaporizhzhia yn ddiweddarach ddydd Llun.
Dywedodd llefarydd ar ran y Cenhedloedd Unedig fod y gwaith o symud y bobl o'r gwaith dur wedi dechrau ddydd Sadwrn a'i fod yn cael ei gyd-lynu rhwng y Groes Goch, Rwsia a Wcráin.
Darllenwch ragor yma.
Evacuation of civilians from Azovstal began. The 1st group of about 100 people is already heading to the controlled area. Tomorrow we’ll meet them in Zaporizhzhia. Grateful to our team! Now they, together with #UN, are working on the evacuation of other civilians from the plant.
— Володимир Зеленський (@ZelenskyyUa) May 1, 2022