Arestio pump o bobol yn dilyn tân ‘bwriadol’ yn Sir Conwy
30/04/2022
Heddlu.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi arestio pump o bobol yn dilyn tân mewn fflat yn Sir Conwy.
Dywedodd yr heddlu eu bod nhw’n ystyried fod y tân wedi ei gynnau’n fwriadol yn y fflat yn ardal Cyffordd Llandudno nos Wener.
Ychwanegodd yr heddlu nad oedd bygythiad pellach i’r gymuned leol ac ni chafodd unrhyw un anafiadau yn y digwyddiad.
Mae’r heddlu wedi diolch i drigolion lleol am eu cydweithrediad a dealltwriaeth ac yn apelio am unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth i gysylltu â nhw.