Darogan mai Sinn Féin fydd yn blaid fwyaf yng Ngogledd Iwerddon am y tro cyntaf erioed

Bydd etholiadau Cynulliad Gogledd Iwerddon yn cael eu cynnal wythnos nesaf, gyda darogan y bydd newid hanesyddol yn digwydd yn y dalaith.
Mae'n bosib mai Sinn Féin fydd y blaid fwyaf am y tro cyntaf yn hanes Gogledd Iwerddon, wedi i blaid yr Unoliaethwyr Democrataidd (DUP) ddioddef colledion arwyddocaol yn ddiweddar.
Mae'r blaid wedi cael tri arweinydd yn y flwyddyn ddiwethaf yn ogystal â rhwyg o fewn ei rhengoedd, yn bennaf oherwydd y ffordd y cafodd Arlene Foster ei diarddel.
Un o brif amcanion Sinn Féin fyddai sicrhau rheolaeth ar y ddwy ochr i'r ffin, ac o ganlyniad, i adael y Deyrnas Unedig.
Nid ydy'r DUP na Phlaid Unoliaethol Ulster (UUP) wedi cadarnhau hyd yma y byddan nhw’n gwasanaethu fel dirprwy brif weinidog ochr yn ochr â phrif weinidog o Sinn Féin.
Yn sgil Cytundeb Dydd Gwener y Groglith 1998, mae'n rhaid i'r cenedlaetholwyr a'r unoliaethwyr rannu grym yn Stormont.
Darllenwch fwy yma.