Golygydd y Mail on Sunday yn gwrthod cyfarfod â Llefarydd Tŷ’r Cyffredin i drafod stori Angela Rayner

Mae golygydd papur newydd y Mail on Sunday wedi gwrthod cynnig i gyfarfod Llefarydd Tŷ’r Cyffredin i drafod stori gafodd ei chyhoeddi yn y papur yn ymwneud ag ymddygiad yr AS Angela Rayner.
Mae’r stori wedi derbyn beirniadaeth gan Geidwadwyr ac aelodau o’r Blaid Lafur wedi i’r papur Sul honni bod y Canghellor Cysgodol yn ceisio "tynnu sylw" Boris Johnson gyda'i choesau yn ystod dadleuon yn San Steffan.
Fe wnaeth Syr Lindsey Hoyle wahodd golygydd y papur, David Dillon, i gyfarfod yn dilyn yr ymateb chwyrn i'r erthygl dros y penwythnos.
Ond mae Mr Dillon a golygydd gwleidyddol y Mail on Sunday a ysgrifennodd y stori, Glen Owen, wedi gwrthod mynychu’r cyfarfod ar sail "rhyddid y wasg."
Darllenwch y stori'n llawn yma.