CPD Caerdydd yn gwadu hawlio £80m o iawndal gan Nantes dros farwolaeth Emiliano Sala

Mae Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd wedi gwadu honiadau eu bod wedi gwneud cais yn hawlio £80m o iawndal oddi wrth glwb Nantes yn Ffrainc dros farwolaeth y chwaraewr Emiliano Sala.
Bu farw'r Archentwr wrth deithio mewn awyren o Ffrainc i Gaerdydd ym mis Ionawr 2019.
Roedd adroddiad gan The Sun yn dweud fod y clwb o'r brifddinas wedi gwneud cais digolledu yn erbyn Nantes, gyda'r clwb yn dadlau bod marwolaeth Sala wedi achosi colled ariannol ar ôl iddynt ddisgyn o Uwch Gynghrair Lloegr yn 2019.
Yn ôl The Sun, roedd Caerdydd wedi gwneud y cais ar sail yr arian gafodd ei golli o hawliau teledu, hysbysebu a chyfleoedd noddi.
Ond mae'r clwb wedi cyhoeddi datganiad yn gwadu'r honiadau yn llwyr, gan ddweud bod unrhyw adroddiadau am gais digolledu yn "hollol anghywir."
Darllenwch fwy yma.