Disgwyl i Emmanuel Macron sicrhau ei ail dymor fel arlywydd Ffrainc

Mae disgwyl i Emmanuel Macron sicrhau ei ail dymor fel arlywydd Ffrainc, yn ôl y rhagolygon o ganlyniadau rownd olaf yr etholiad arlywyddol nos Sul.
Roedd Macron yn wynebu'r ymgeisydd asgell dde eithafol Marine Le Pen am yr eildro wedi i'r ddau gystadlu ar gyfer yr arlywyddiaeth yn 2017.
Yn ôl cwmni ymchwil Ipsos, mae Macron wedi sicrhau 58.2% o'r bleidlais, gyda Le Pen yn ennill 41.8% o gefnogaeth y cyhoedd.
Bydd y blychau pleidleisio yn cau am 20:00 nos Sul, ond mae Marine Le Pen wedi derbyn ei methiant i gipio'r arlywyddiaeth mewn araith yn ei phencadlys.
Dyma'r tro gyntaf mewn 20 mlynedd i Arlywydd Ffrainc ennill ail dymor.
Darllenwch fwy yma.