Staff uned iechyd meddwl Hergest yn 'poeni am ddiogelwch' eu cleifion
Staff uned iechyd meddwl Hergest yn 'poeni am ddiogelwch' eu cleifion
Mae rhai o staff uned iechyd meddwl Hergest yn Ysbyty Gwynedd, Bangor yn dweud fod ganddyn nhw bryder gwirioneddol am ddiogelwch eu cleifion ar hyn o bryd.
Wrth siarad yn anhysbys â rhaglen Y Byd ar Bedwar, mae 10 o weithwyr a chyn-weithwyr wedi mynegi pryderon am staffio, y galw cynyddol am welyau ac ymddygiad rheolwyr yr uned.
“Dwi’n gweithio oriau ridiculous, dwi’n gwneud cyfnodau o dair wythnos heb frêcs - shifts hyd at 14 awr,” meddai un aelod o staff yno.
“‘Da ni’n burnt out, yn ara’ bach mae o’n bwyta mewn i ti. Dwi angen amser off," meddai un arall.
“Bob tro dwi’n cael diwrnod i ffwrdd, ma’ Hergest yn cysylltu yn gofyn i ni wneud shifts ar frys.”
Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn dweud bod “cynnydd da” wedi bod yn uned Hergest.
'Pobl yn mynd i farw'
Ym mis Ebrill llynedd, bu marwolaeth ar y ward. Flwyddyn yn ddiweddarach, mae’r staff yn ofni y gallai digwyddiad catastroffig ddigwydd eto.
“Dwi’n ofni bod rhywbeth mawr yn mynd i ddigwydd. Dwi’n poeni am ddiogelwch y cleifion.”
“Ma’r stwff dwi ’di gweld yn horrific. Dwi ’di gweld claf yn ceisio lladd ei hun.”
Gyda’r mwyafrif yn ofni siarad yn agored, roedd un cyn-weithiwr yn fodlon rhannu ei bryderon.
Wedi gweithio yn Hergest ers y nawdegau, roedd yr Athro David Healy yn gweithio fel Ymgynghorydd Seiciatrig yno. Mae’n dweud bod agwedd y tîm rheoli wedi cyfrannu at ei ymddiswyddiad yn 2020.
Dywedodd wrth Y Byd ar Bedwar: “Does neb eisiau gweithio yno gan fod yr amodau yn annymunol ac anghyfforddus, ac ma’ nhw’n or-ddibynnol ar staff locwm.
“Os ydych chi'n cael gwared ar bobl sy'n siarad allan am faterion diogelwch, os ydych chi'n cael gwared ar y staff gorau, nid yn unig y mae pobl yn mynd i farw, ond mae’r gofal o ddydd i ddydd yn gwaethygu. Dyna beth sydd wedi digwydd dros y 10 mlynedd ddiwethaf.”
'Gorfod cymryd fy mywyd i drio cael gwely'
Un a brofodd yr heriau ar yr uned yw Dylan Parry, 35, o Ynys Môn.
Ar ôl ceisio lladd ei hun yn Afon Menai yn 2017, cafodd ei yrru i uned gyfagos Hergest, ond doedd dim gwely ar gael iddo.
“Mae’n disgusting bod dim gwelyau o gwmpas o gwbwl. Ro’n i’n teimlo fel bod dim lle arall i droi.”
Cafodd Dylan wybod bod gwely ar gael iddo dros bedair awr i ffwrdd, yn ysbyty iechyd meddwl y Priory yn Darlington, Lloegr.
Buodd yno am saith wythnos, cyn dychwelyd i uned Hergest am wythnos.
“Dwi byth isho mynd i Hergest eto. Ro’dd pobol efo gwahanol fathau o salwch meddwl wedi’u bwnsho mewn i un ‘stafell.”
“Ges i ddim therapi na thriniaeth tra o’n i yno.
“Dwi ddim yn meddwl bo hynna lawr i’r staff. Do’dd ’na ddim digon o staff i watchad ar ôl yr holl bobl oedd yna.”
I Dylan a’i deulu, mae’n rhwystredig nad oedd cymorth ar gael iddo pan oedd ei angen fwyaf.
“Dwi’n meddwl ma’ Betsi Cadwaladr rili angen sbio ar y funding a’r gofal ma nhw’n roi,” meddai chwaer Dylan, Llinos Taylor.
“Ma’ nhw angen gwlâu, cyfleusterau mwy, wardiau mwy, mwy o staff, hyfforddiant ac aftercare."
Mewn ymateb dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr bod “cynnydd da” wedi bod yn uned Hergest dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys “gwelliannau i safonau gofal a newidiadau sydd wedi sicrhau cymysgedd diogelach o gleifion.
“Mae’r rhan fwyaf o’n cleifion yn derbyn gofal o ansawdd uchel ac mae’n wirioneddol ddrwg gennym pan fo cleifion, eu teuluoedd neu eu gofalwyr yn teimlo nad ydym wedi cyrraedd y safonau disgwyliedig.”
Mae'r bwrdd iechyd hefyd yn dweud eu bod yn “gweithio’n galed i wneud gwelliannau pellach” a’u bod yn “siomedig bod rhai staff yn teimlo eu bod nhw’n methu codi pryderon”, gan fod “nifer o ffyrdd iddyn nhw wneud hyn, gan gynnwys platfform anhysbys ga’th ‘i lawnsio llynedd.”
“Rydym yn gweithio’n galed i feithrin diwylliant agored a phositif ac yn addo gwrando ar y staff cyn bod gwelliannau yn digwydd o ganlyniad.”