Arestio dyn ar amheuaeth o gynnau tân bwriadol yng Nghasnewydd
Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth yn dilyn tân ar Ffordd Beaufort yng Nghasnewydd nos Sadwrn.
Dywed y llu fod dyn 45 oed o Gasnewydd wedi ei arestio ar amheuaeth o gynnau tân yn fwriadol wedi'r digwyddiad am tua 23:05
Dywedodd y Prif Uwcharolygydd Tom Harding o Heddlu Gwent nad oedd neb wedi eu hanafu o ganlyniad i'r tân, gafodd ei ddiffodd yn sydyn gan ddiffoddwyr tân.
"Wrth i'n hymholiadau barhau fe fydd trigolion Ffordd Beaufort yn gweld rhagor o swyddogion ar batrôl ac rydym yn eu hannog i siarad yn uniongyrchol gyda nhw os oes gan bobl bryderon."
Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un sydd gyda lluniau cylch cyfyng neu luniau dashcam, neu os oedd unrhyw un yn yr ardal rhwng 22:30 a 23:30 i gysylltu gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2200134410.