Angela Rayner yn beirniadu stori 'o'r gwter' yn dilyn erthygl am ei gwisg
Mae dirprwy arweinydd y Blaid Lafur wedi beirniadu erthygl amdani yn y Mail on Sunday oedd yn awgrymu ei bod wedi ymdrechu i daflu Boris Johnson oddi ar ei echel drwy wisgo ac ymddwyn mewn ffordd arbennig o'i flaen.
Roedd yr erthygl yn awgrymu fod rhai gwleidyddion Ceidwadol yn ymdebygu'r gwleidydd Llafur i brif gymeriad y ffilm 'Basic Instinct' o'r 90au yn y ffordd yr oedd wedi gwisgo.
Mewn ymateb chwyrn i'r erthygl ar gyfryngau cymdeithasol ddydd Sul, dywedodd Ms Rainer fod menywod mewn gwleidyddiaeth "yn wynebu rhywiaeth a chasineb bob dydd - a dydw i ddim gwahanol.
"Y bore yma yw’r dos diweddaraf o newyddiaduraeth y gwter drwy garedigrwydd y Mail on Sunday." meddai.
Women in politics face sexism and misogyny every day - and I’m no different.
— Angela Rayner 🌹 (@AngelaRayner) April 24, 2022
This morning’s is the latest dose of gutter journalism courtesy of @MoS_Politics
🧵👇🏻1/9
Ychwanegodd Ms Rayner: "Rwy’n cael fy nghyhuddo o “gynllwyn” i “dynnu sylw” y Prif Weinidog diymadferth – trwy fod yn fenyw, bod â choesau a gwisgo dillad.
"Mae cefnogwyr Boris Johnson wedi troi at ledaenu honiadau anobeithiol, gwyrdroëdig yn eu hymdrechion i achub ei groen. Maen nhw'n gwybod yn union beth maen nhw'n ei wneud. Y celwyddau maen nhw'n eu dweud.
"Ni fyddaf yn gadael i'w celwyddau cas fy rhwystro. Bydd eu hymdrechion i fy aflonyddu a'm dychryn yn methu. Rydw i wedi bod yn agored ynglŷn â sut rydw i wedi gorfod brwydro i gyrraedd lle rydw i heddiw. Rwy’n falch o fy nghefndir, rwy’n falch o bwy ydw i ac o ble rydw i’n dod - ond mae wedi cymryd amser."
Dywedodd ei bod yn gobeithio na fyddai'r profiad "yn rhwystro person sengl fel fi, sydd â chefndir fel fy un i, rhag dyheu am gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus.
"Byddai hynny'n torri fy nghalon. Mae angen mwy o bobl mewn gwleidyddiaeth gyda chefndir fel fy un i - a llai fel hobi i helpu eu ffrindiau."
Yn dilyn cyhoeddi'r erthygl mae gwleidyddion o bob plaid wedi condemnio'r feirniadaeth o Ms Rayner, gyda Boris Johnson yn dweud ei fod wedi ei ffieiddio gan y casineb dienw oedd wedi ei anelu ati hi.
Dywedodd arweinydd y Blaid Lafur, Keir Starmer, fod y rhywiaeth a chasineb at fenywod sydd wedi ei rannu gan y Ceidwadwyr wedi cyrraedd ei lefel isaf eto, gan blaid oedd "yn ddwfn mewn sgandal ac anhrefn".
Dywedodd Lis Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, fod yr erthygl yn gamgymeriad dychrynllyd gan y Mail on Sunday, a bod y casineb at fenywod yn y darn yn sarhaus i bob menyw mewn bywyd cyhoeddus.
Llun: David Woolfall