Pobl ifanc 'wedi colli llif cymdeithasu' o ganlyniad i'r cyfnodau clo

23/04/2022
S4C

Mae arbenigwr yn credu bod cysylltiad rhwng y cyfnod clo ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ymysg pobl ifanc.

Mae Rhian Price, cwnselydd a seicotherapydd o Fangor, yn priodoli’r cynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol yn rhannol i gyfnodau clo y pandemig.

Dros y Pasg, ymatebodd yr heddlu mewn nifer o drefi ar hyd a lled Cymru i broblemau yn ymwneud â phobl ifanc ac alcohol. Roedd nifer o adroddiadau o drais ac ymladd wedi dod o Bontypridd, Caernarfon a rhannau o Sir y Fflint.

Wrth siarad gyda Newyddion S4C, dywedodd Ms Price bod cyfnodau clo wedi cael effaith ar ymddygiad bobl ifanc, gan eu bod wedi “colli llif cymdeithasu”.

Ers y pandemig, mae trafodaethau wedi cynyddu am iechyd meddwl, ac yn benodol am sgil effeithiau absenoldebau ysgol a diffyg rhyngweithio.

 Eglurodd Ms Price nad oedd integreiddio yn ôl i mewn i gymdeithas wedi bod yn broses hawdd.

Ychwanegodd fod “gor-bryder…hunan-niweidio… a chwympo allan gyda theulu yn neud i bobl fynd a gwrthdaro. Mae mynd allan yn gwneud pethau’n waeth mewn ffordd.”

Eglurodd bod pobl ifanc yn “datblygu’n raddol”, ond mae’r diffyg rhwydweithio cymdeithasol yn ystod Covid-19 wedi eu hatal rhag “dysgu’r sgiliau i edrych ar ôl nhw ei hunan”.

Pwysleisiodd bod angen mwy o gymorth ar rieni sydd wedi dioddef hefyd.

Yn ôl yr elusen Mind, fe waethygodd iechyd meddwl 53% o bobl ifanc ar ôl y trydydd cyfnod clo yn Ebrill 2021.

Er hyn, “i’r bobl ifanc sy’n mynd ac yn bihafio’n fwy gwrthgymdeithasol, nad ydyn nhw’n cyrraedd y stafell cownsela…maen nhw angen cefnogaeth gymaint â neb” meddai Ms Price.

Yn 2021, dywedodd elusen YMCA bod gwariant awdurdodau lleol ar wasanaethau ieuenctid wedi lleihau o 38% yng Nghymru, gyda Chaerdydd yn gweld y gwahaniaeth mwyaf.

Pwysleisiodd Ms Price bod “yna rôl fawr i weithwyr ieuenctid” ac fe awgrymodd fod angen “prosiectau ble mae mwy o weithio gyda llesant” mewn ysgolion.

Er yr adroddiadau am eu hymddygiad, “mae pobl yn bihafio mewn ffordd eithaf naturiol i bobl ifanc” medd Ms Price, gan ychwanegu mai mesurau ataliol yw’r ateb.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.