
Gwylnos i alw am ail-agor achos marwolaethau brawd a chwaer o Sir Benfro
Fe fydd gwylnos yn cael ei chynnal nos Sul i gofio am frawd a chwaer o Sir Benfro fu farw yn 1970au dan amgylchiadau sy'n dal i fod yn ddirgelwch.
Bu farw Griff a Patti Thomas o Ffynnon Samson ym mhentref Llangolman ychydig cyn y Nadolig yn 1976.
Ar y pryd, daeth rheithgor i'r casgliad fod Mr Thomas wedi llofruddio ei chwaer cyn rhoi ei hun ar dân yn fwriadol.

Ond mae rhai yn lleol yn cwestiynu'r dyfarniad ac yn galw am ail-ystyried y dystiolaeth 46 o flynyddoedd yn ddiweddarach.
Mae trefnwyr yr wylnos yn gobeithio dwyn pwysau ar yr heddlu i ailagor yr ymchwiliad i'r achos.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yng Nghapel Rhydwilym, lle mae'r ddau wedi eu claddu.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys: "Rydym yn parhau i adnabod a chadarnhau pa ddeunydd sydd wedi ei gadw. Bydd y teulu'n cael eu diweddaru gydag unrhyw ddatblygiadau."