Dau wedi marw a thri mewn cyflwr difrifol yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir y Fflint
22/04/2022
Mae dau berson wedi marw a thri arall yn yr ysbyty mewn cyflwr difrifol yn dilyn gwrthdrawiad un cerbyd yn Sir y Fflint.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad yn oriau man bore Gwener ger cyffordd yr A548 a'r A5026 ym Magillt.
Mae disgwyl i'r ffordd barhau ar gau tan amser cinio ar y cynharaf wrth i'r heddlu barhau â'u hymchwiliadau.
Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth gan unrhyw un oedd wedi gweld car BMW gwyn yn teithio ar yr A548 o'r Fflint i gyfeiriad Bagillt cyn 2:30am fore Gwener.
Mae gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu drwy ddefnyddio'r cyfeirnod B056403.